Roedd “dros 1,000” o bobol wedi lawrlwytho ‘app’ iSteddfod – rhaglen iPhone ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol – meddai’r partneriaid busnes oedd yn gyfrifol am y fenter.

Dywedodd Ambrose Choy, a greuodd yr ‘app’ ar y cyd gyda Edryd Sharp, wrth Golwg360 eu bod nhw’n “weddol hapus” ond y bydden nhw’n “hoffi gweld mwy” yn ei lawrlwytho a’i ddefnyddio yn Wrecsam 2011.

Y nod nawr yw dechrau cynllunio’r iSteddfod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf, a mae nhw wedi dechrau meddwl am “ffyrdd i’w wella” yn barod.

Marchnata

Dywedodd Ambrose Choy wrth Golwg360 eu bod nhw eisiau marchnata’r rhaglen yn well cyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

“Dw i’n meddwl y bydd yr Eisteddfod yn gwneud mwy fyth o waith marchnata’r flwyddyn nesaf,” meddai cyn dweud eu bod yn cyfarfod gyda threfnwyr yr ŵyl ym mis Medi er mwyn trafod y dyfodol.

Er y byddai wedi hoffi gweld mwy o ddefnyddwyr, roedd yr ymateb gan bobol wnaeth ei lawrlwytho yn “gadarnhaol” meddai.

“Roedd pobol yn hoffi gallu nodi ffefrynnau a defnyddio’r calendr i atgoffa eu hunain ynglŷn a digwyddiadau,” meddai.
“Mae wedi bod yn agoriad llygaid mawr i mi cymaint sy’n digwydd yn yr Eisteddfod.

“Roedd yna yn agos at fil o ddigwyddiadau ar yr app heb son am rai digwyddiadau llai nad oedd arno. Y gobaith ydi cynnwys hyd yn oed yn fwy’r flwyddyn nesaf,” meddai.

“Roedd hi’n fraint cael cyfrannu at y peth.”