Mae S4C wedi dweud eu bod nhw’n dal i ystyried y ffordd orau o benodi Prif Weithredwr newydd i olynu Iona Jones.
Yn ôl llefarydd ar ran S4C fe fydd Arwel Ellis Owen yn parhau i fod yn brif weithredwr dros dro tan fydd gan y sianel deledu pennaeth newydd.
Mae hynny’n awgrymu y gallai fod yn ei swydd yn hirach na’r tri mis yr oedd S4C wedi ei awgrymu’n wreiddiol.
Fe gafodd Arwel Ellis Owen ei benodi fel Prif Weithredwr dros dro ar ddiwedd mis diwethaf er mwyn “pontio’r cyfnod hyd nes y penodir Prif Weithredwr parhaol”.
Ar hyn o bryd dyw S4C heb gyhoeddi unrhyw amserlen benodol o ran pryd maen nhw’n disgwyl penodi Prif Weithredwr newydd i’r sianel.
Gadawodd Iona Jones ei swydd pythefnos yn ôl a dyw Awdurdod S4C heb gynnig unrhyw esboniad ynglŷn â’i hymadawiad.
Mae Golwg360 wedi siarad â nifer o ffynonellau gwahanol sy’n dweud bod y Prif Weithredwr wedi gadael ar ôl i’r Awdurdod wneud yn glir na fydden nhw’n adnewyddu ei chytundeb hi.
Datganiad S4C
“Fe fydd Arwel Ellis Owen yn parhau yn Brif Weithredwr dros dro’r Sianel hyd nes i Brif Weithredwr llawn amser gael ei benodi/phenodi,” meddai llefarydd ar ran S4C.
“Mae S4C yn ystyried y dulliau o benodi Prif Weithredwr newydd ar hyn o bryd.”