Mae rheolwr y Seintiau Newydd, Mike Davies, wedi dweud ei fod am roi’r gemau Ewropeaidd yng nghefn ei feddwl wrth i’r clwb baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf o’r tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair Cymru.
Fe fydd y clwb Cymreig yn wynebu CSKA Sofia yng ngêm ragbrofol Cynghrair Europa yr wythnos nesaf.
Ond cyn hynny fe fydd y Seintiau Newydd yn wynebu Prestatyn heno yn Park Hall ar gyfer gêm agoriadol tymor cyntaf y 12 disglair yn Uwch Gynghrair Cymru.
“Mae ein profiadau yn Ewrop wedi bod yn gyffrous iawn ac yn dda ar gyfer paratoadau’r clwb,” meddai Mike Davies.
“Fe fydd angen i ni ddefnyddio’r profiadau hynny yn Uwch Gynghrair Cymru.
“Mae’n bwysig i ni ddechrau’n dda yn erbyn Prestatyn ac fe fydd y bois yn canolbwyntio’n llwyr ar y gêm yna.
“Dim ond ar ôl gêm gynta’r tymor fyddwn ni’n dechrau meddwl am y gêm yn erbyn CSKA.”
Roedd y Seintiau Newydd wedi curo Prestatyn 5-0 yn Park Hall y tymor diwethaf, ond mae Mike Davies yn disgwyl gêm anoddach y tro hwn.
“Mae rheolwr Prestatyn, Neil Gibson wedi arwyddo dau chwaraewr da yn Ross Stephens a Lee Hunt a fyddwn ni ddim yn cymryd dim byd yn ganiataol.
“Fe fydd pob gêm yn y gynghrair newydd yn anodd, ac fel pencampwyr, r’yn ni’n disgwyl i bob tîm fod ar eu gorau yn ein herbyn.”