Mae rheolwr Arsenal, Arsene Wenger wedi dweud ei fod o’n gobeithio bydd chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey yn dychwelyd i chwarae ym mis Tachwedd.
Fe dorrodd y Cymro ei goes yn ystod tacl erchyll gan amddiffynnwr Stoke, Ryan Shawcross, ym mis Chwefror eleni.
Roedd yr anaf mor ddifrifol bod ‘na amheuon wedi codi am ei ddyfodol gydag adroddiadau y byddai allan o’r gêm am o leia’ blwyddyn.
Roedd Wenger wedi bod yn amharod i roi dyddiad penodol ar ddychweliad Ramsey i’r cae.
Roedd Ramsey ei hun wedi dweud rhai misoedd yn ôl nad oedd o’n edrych y tu hwnt i’r wythnosau nesaf ac nad oedd o’n gwybod pryd y byddai’n holliach.
Ond gyda thymor newydd yr Uwch Gynghrair yn dechrau yfory, mae rheolwr Arsenal wedi cadarnhau y bydd Ramsey yn chwarae unwaith eto, tua naw mis wedi’r anaf.
“Mae gennym ni rai problemau gydag anafiadau, ond fe fydd Ramsey yn dychwelyd ym mis Tachwedd,” meddai Arsene Wenger.
Fe fydd y newyddion yma’n hwb mawr i obeithion John Toshack a’r tîm cenedlaethol yn eu hymgyrch rhagbrofol.
Fe fydd Ramsey yn colli’r gemau yn erbyn Montenegro, Bwlgaria a’r Swistir ym mis Medi a Hydref, ond fe fydd y Cymro ‘nôl i wynebu Lloegr ym mis Mawrth flwyddyn nesaf.