Mae’r Gweilch wedi cadarnhau bod eu canolwr, Jonathan Spratt yn wynebu cyfnod hir ar yr ystlys ar ôl iddo anafu ei ben-glin mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth.

Roedd Jonathan Spratt, sydd wedi ennill dau gap dros Gymru, newydd ddychwelyd i chwarae yn dilyn llawdriniaeth ar anaf i’w gefn a ddioddefodd ym mis Ionawr eleni.

Ond ar ôl i’r canolwr orfod adael y cae yn ystod y gêm nos Fawrth, mae Spratt yn wynebu cyfnod arall ar yr ystlys.

“Roedd Jonathan wedi dioddef anaf i’w ben-glin ac mae sgan wedi cadarnhau ei fod wedi rhwygo ligament,” meddai ffisiotherapydd y Gweilch, Chris Towers.

“Fe fydd angen llawdriniaeth arno i ail-adeiladu’r ligament. Yn dilyn hyn fe fydd gennym ni amserlen gliriach o’i adferiad.”