Mae chwaraewr y Crusaders, Mark Bryant yn credu y byddai sicrhau lle yn rownd wyth olaf y Super League yn hwb enfawr i’r clwb, i Wrecsam ac i rygbi’r gynghrair yn gyffredinol.

Fe fydd tîm Brian Noble yn wynebu Hull FC yn Stadiwm KC nos Wener ac fe fydd hi’n gêm allweddol i’r ddwy ochr.

Mae’r clwb Cymreig yn yr wythfed safle ar hyn o bryd, ond mae Castleford dau bwynt yn unig y tu ôl iddyn nhw gyda thair gêm yn weddill.

“Mae’r fantais gyda ni nawr gan ein bod ni o flaen Castleford,” meddai Mark Bryant.

“Ond mae yna dal nifer o dimau yn cystadlu am le felly allwn ni ddim cymryd dim yn ganiataol.

“Fe fyddai gorffen yn yr wyth olaf yn gam mawr ymlaen i ni.”

Newyddion y tîm

Mae Brian Noble wedi cyhoeddi mai’r un garfan 19 dyn a chwaraeodd yn y gêm ddiwethaf yn erbyn yr Harlequins fydd yn herio Hull FC nos yfory.

Mae Elliot Kear yn cadw ei le yn y garfan tra bod Vince Mellars allan gydag anaf i’w ysgwydd.

Bydd disgwyl i Jason Chan gadw ei le yng nghanol y cae lle mae o wedi dangos ei ddoniau yn absenoldeb Mellars.

Mae Gareth Thomas yn parhau i wella o anaf i’w werddyr ond mae’n targedu dychwelyd i chwarae yn erbyn St Helens ar y Cae Ras ymhen wythnos.

Carfan y Crusaders

2. Nick Youngquest, 3. Tony Martin, 7. Jarrod Sammut, 8. Ryan O’Hara, 9. Lincoln Withers, 10. Mark Bryant, 11. Weller Hauraki, 12. Jason Chan,13. Rocky Trimarchi, 14. Luke Dyer, 15.Tommy Lee, 16. Frank Winterstein, 17. Adam Peek, 18.Jamie Thakray, 19. Jordan James, 22. Elliot Kear, 23. Peter Luton, 26. Rhys Hanbury, 27.Clinton Schifcofske.