Mae rhagor o law yn China yn bygwth mwy o dirlithriadau a allai wneud y gwaith achub yng ngogledd orllewin y wlad bron yn amhosib.
Mae cannoedd eisoes wedi marw eisoes yn dilyn tirlithriadau wedi llifogydd yn nhalaith Gansu dros y penwythnos.
Mae rhagolygon tywydd yn awgrymu y bydd hyd at 3.5 modfedd o law yn disgyn yno heddiw.
Dywedodd Ganolfan Dywydd Cenedlaethol China ei bod hi’n debygol y bydd rhagor o dir lithriadau ar hyd yr Afon Bailong sy’n llifo drwy’r dalaith.
Cafodd cannoedd o gartrefi eu claddu a thros 1,117 eu lladd ar ôl tirlithriadau dydd Sul diwethaf yn dilyn dyddiau o law trwm.