Mae dyn o’r Unol Daleithiau sydd wedi dysgu Cymraeg mewn blwyddyn ar y we wedi dechrau ymgyrch ar wefannau Twitter a Facebook i gael rhan ar raglen Pobol y Cwm.
Ac mae’r BBC wedi dweud wrth Golwg 360 y bydden nhw’n edrych ar y fideo i weld a ydi ei actio’n ddigon da i ymuno â gweddill y cast.
Mae Dan Rhys wrth ei fodd gyda’r opera sebon a dechreuodd ymgyrch ‘Rhan i Dan’ ar y gwefannau rhyngweithio cymdeithasol er mwyn ennill cefnogaeth gwylwyr y rhaglen.
Yn ôl Dan Rhys, ei freuddwyd yw “ymddangos ar Bobol y Cwm” a siarad yr un iaith ag oedd ei “gyn-dadau’n siarad” nifer fawr o flynyddoedd yn ôl yn Llanbrynmair.
Ar ei dudalen Facebook mae’n galw ar bobol i ‘ymbil ar Menna Richards yn bersonol’ am ran iddo ar y rhaglen. Mae ganddo hefyd dudalen Twitter.
“Mae’n braf gweld bod Pobol y Cwm yn apelio at gynulleidfa mor eang,” meddai llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg 360. “Edrychwn ni ar dâp Dan.”
Yr hyn sydd ganddo i’w gynnig…
Yn ei fideo clyweliad ar gyfer Pobol y Cwm, mae Dan yn datgan ei fod yn “caru’r iaith” Gymraeg yn “fawr iawn”.
Wrth restru’r hyn sydd ganddo i’w gynnig i’r gyfres ddrama gyson mae’n honni ei fod yn gallu bod yn “ramantus iawn” yn “gas” yn “arwr” ac yn “ddryslyd”.