Dylan Iorwerth yn edrych yn ôl ar wythnos yng Nglyn Ebwy.

Un arall heibio. Un dda. Un a fyddai’n well fyth pe bai’r holl eisteddfodwyr arferol wedi dod.

A rhyw feddyliau fel hyn sy’n crynhoi …

Sadwrn

Mi ddechreuodd yn Rassau a’r math o olygfa fyddai’n bwydo rhagfarnau’r rhai a gadwodd draw … anialdir o faes parcio. Ond roedd y bysys yn gweithio’n dda a’r gyrwyr yn glên.

Rhagor o fwydo rhagfarn … storis yn lledu am ddwyn ar y maes carafanau. “Dim byd newydd,” meddai’r Eisteddfod a fuodd yna ddim sôn am broblemau ar ôl hynny.

Os nac oedd yna laswellt dan draed, roedd yna ddigon ar y bryniau o gwmpas – cefn gwlad efo pentrefi di-ddiwydiant ydi’r Cymoedd erbyn hyn, yn hytrach na phentrefi diwydiannol rhwng bryniau.

Mae’r gwaith adfywio yn yr hen waith dur lle’r oedd yr Eisteddfod yn anferth … canolfan addysg, ysbyty, canolfan dreftadaeth, tai gwyrdd, llefydd hamdden …. a channoedd o dai. Neis iawn – ond lle bydd y gwaith.

Tros ddau gan mlynedd mae’r ardal wedi gweld dau chwyldro – at ddiwydiant ac yn ôl. Bellach mae patrwm newydd clir – mae’ diwydiant a siopau ar hyd ffordd fawr Blaenau’r Cymoedd neu i lawr yn nhrefi mawr y gwastadedd.

Sul

Codi’r babell ar y Maes Carafanau. Trydan am y tro cynta’ erioed. Teimlo’n swanc.

I lawr i wrando ar Gwibdaith Hen Frân ym Maes C – a chyrraedd toc wedi naw … yn rhy hwyr. Wedi prynu tocyn am 8.00 ond neb wedi boddran dweud. Diolch yn fawr.

Maes C yn handi ond un golled fawr ydi’r cysylltiad efo’r ardal leol. Un o’r pleserau erstalwm oedd dod i nabod tafarndai – a phobol – yn y gwahanol lefydd.

Llun

S4C yn rheoli’r newyddion – fel tân yn sugno’r ocsigen o bopeth arall. Y sianel yn gwrthod ateb dim am ymadawiad y Brif Weithredwarig Iona Jones. Gwrthod dweud hyd yn oed a oedd hi ar gytundeb neu staff. Boncyrs.

Maen nhw’n sicrhau bod y stori’n mynd ymlaen ac ymlaen … ac y daw hi’n ôl. Tydi gwleidyddion ddim yn licio, ar adeg pan mae angen cefnogaeth gwleidyddion a, phan ddaw’r gwir i’r wyneb – fel y bydd rhaid iddo fo – mi fydd un o ddau beth yn digwydd. Mi fydd pawb yn dweud be oedd y ffỳs a’r sianel yn edrych yn wirion, neu mi fydd hi’n amlwg fod pethau wedi mynd yn draed moch.

Lol yn llawn stwff am y sianel. Ychydig oedd yn hollol newydd ond rhai pethau wedi’u dweud oedd heb eu cyhoeddi o’r blaen. Darn am Golwg360 hefyd – gobeithio bod y ffeithiau’n nes ati yn stori S4C.  Er mwyn cofnodi, mae ffigurau ymwelwyr y safle bellach yn croesi 3,000.

Glenys Roberts yn ennill y Goron. Grêt. Enw newydd i’r rhan fwya’. Ond mae yna dawelwch cynnil yn y cerddi – yn fy atgoffa fi o’r cerddi a enillodd y Goron i Christine James. Llai o orchest nag sydd yng ngherddi dynion.

Gyda’r nos. Huw M, diddorol a swynol. Tecwyn Ifan – fel diwygiad! Pobol yn dawnsio a lot o hwyl.

Mawrth

Yn ôl i Lanbed i glirio ambell i beth. Yn ôl wedyn i Lyn Ebwy i gadeirio sesiwn lle’r oedd dau o benaethiaid S4C yn wynebu’r ‘dorf’. Wedi disgwyl sesiwn stormus … paratoi yn fy meddwl sut i handlo heclo a holwyr blin. Cyfarfod ymlaen llaw i drafod y drefn – ond gadael cyn iddyn nhw ddechrau briffio’i gilydd … gan mai cadeirydd annibynnol o’n i, do’n i ddim eisio gwybod. Fel y digwyddodd hi, roedd y cyfarfod yn ofnadwy o fflat. Fawr neb yn gwybod, falle? Llawer oedd yno’n rhan o’r busnes. Yr un neges glir oedd, gwell safon na llenwi amser – rhaglenni da nid lot o rai sâl.

Gyda’r nos – Geraint Lovgreen ar ei orau ym Maes C – Elwyn Williams ar y gitâr yn ychwanegu lot a phob cân yn gweithio. Wedyn ail symudiad Ail Symudiad – y band o Aberteifi’n ôl. Richard y canu’n gry’, yn amlwg yn mwynhau. Y drymar a’r gitarydd rhyddm yn edrych yn rhyfeddol o ifanc o hyd … nes sylweddoli mai meibion Richard oedden nhw. Licio’r drymar yn arbennig – rhyddmau soffistigedig, drymio’n gynnil a thynn … o’r hyn wn i.

Mercher

Mynd i dynnu lluniau yn rhai o’r Cymoedd … rhesi tai’n hongian ar y llethrau … erstalwm roedden nhw’n tyrru uwchben y gweithfeydd a’r pyllau glo. Erbyn hyn fel llinell y llanw wedi’r trai. Adeiladau bric coch pwll y Navigation yn amlwg o hyd yng Nghrymlyn ac olion o hen brysurdeb yn Abertyleri, ond y siopau’n dlawd.

Enillydd annisgwyl arall ar y Fedal Ryddiaith. Yr Americanwr cynta’ erioed. Ffotograffwyr yn cwyno nad oedd Jerry Hunter yn gwenu … ond roedd modd gweld y nerfusrwydd a’r balchder. Tipyn o beth … ail iaith, ail genedl, prif wobr.

Iau

Pobol ifanc yn anhapus. Addewid o fysys o Maes B i Maes C yn yr oriau mân ond rhywbeth wedi mynd o’i le neithiwr. Yr Eisteddfod yn addo holi … un gyrrwr heb ddod i’w waith, un arall wedi gorfod rhoi’r gorau iddi oherwydd y tacograff. Bos y cwmni wedi dod i’r adwy yn y diwedd – ond bwlch o rai oriau heb fysys. Trefniant munud olaf oedd o beth bynnag – angen meddwl mwy am ddiogelwch pobol ifanc.

Taro ar yr Archdderwydd – stafell y Cyngor drws nesa i stafell y Wasg – yntau’n condemnio’r Eisteddfodwyr pybyr oedd wedi cadw draw. Rhai’n cynnal y myth o Gymru a Sir Fynwy, meddai. Problem y gwrth-Gymraeg oedd hi … ein problem ni erbyn heddiw.

Emyr Lewis, y Prifardd a’r cyfreithiwr, yn rhoi darlith glir am y Mesur Iaith … rhagor fory. Ond lein orau’r pnawn – yr angen i ymgyrchwyr parchus yr iaith fod yn fwy llafar ac i ymgyrchwyr llafar beidio ag ofni bod yn barchus … neu ddisgyn rhwng dau Ffred.

Gyda’r nos – dwy ddrama gan Aled Jones Williams mewn theatr a fu’n sinema yn ardal Cendl (Beaufort). Cynullleidfa wan, dramâu cry’. Mynd yn fwy anodd i drefnu pethau ymylol. Wedi gweld Chwilys o’r blaen – taro ar ein paranoia cyfoes. Merched Eira am ddwy hen wraig yn drysu … llinellau da fel arfer a rhyw anobaith melys.

Gwener

Cadeirio trafodaeth i’r Cynulliad – tynged newyddiadurwyr sydd heibio’u selbei mae’n rhaid – cadeirio cyfarfodydd. Weithiau mae’n anodd cael pobol i drafod ond sawl sylw da y tro yma, a Meri Huws (Bwrdd yr Iaith) ac Emyr Lewis (gweler uchod) yn glir a chadarn. Dafydd El yn cloi efo ymfflamychu nodweddiadol a oedd hefyd yn help fawr o ran egluro be ydi’r drefn.

Swm a sylwedd pethau:

  • Mi fydd rhaid i’r Llywodraeth gynnwys cymal sy’n cryfhau statws y Gymraeg (efo un arall i wneud yn siŵr bod modd o hyd i wneud pethau arbennig i hyrwyddo’r iaith, heb orfod gwneud yr un peth i’r Saesneg.
  • Mae peryg i’r syniad o safonau fod yn gymhleth ofnadwy a chreu mwy o ddryswch. Mae’n ymddangos i fi mai’r peth call fyddai cael safonau i osod yr isafswm sydd raid i gyrff cyhoeddus a chwmnïau gwasanaethau cyhoeddus ei wneud, efo cynlluniau iaith o hyd i fanylu ar ddyletswydd pob un.
  • Pawb o blaid cadw Bwrdd yr Iaith neu rywbeth tebyg. Emyr Lewis yn rhybuddio pawb rhag gwneud ffetish o basio cyfreithiau. Adnoddau i hyrwyddo a hybu gwasanaethau go iawn trwy’r iaith ydi’r peth pwysicaf.

Un peryg – wrth gondemnio’r mesur, mae yna beryg fod pawb yn rhoi’r argraff fod cynlluniau iaith yn llwyddiant ysgubol. Tydyn nhw ddim, ond eisiau eu cael nhw i weithio sydd. Ac mae angen mynd â ‘chynllunio iaith’ – hynny ydi, ffeindio ffordd o gael pobol i’w defnyddio – i lefel arall.

Y Gadair. Awdl i Hywel Teifi. Cael trafferth ar y darlleniad cynta’ … gwella yr ail dro … cael gafael arni ar y trydydd. Diddorol a gwreiddiol.

Gyda’r nos. Tafarn leol o’r diwedd. Y Prince of Wales. Pobol leol yn sgwrsio,  stecen dda am bris rhesymol. Trio mynd i weld Meic Stevens yn y clwb rygbi, y tocynnau i gyd wedi mynd. Ond MS yn y Bridgend o flaen llaw, yn sobor a thaclus a phenwyn  – fel blaenor Methodus … bron iawn.

Sadwrn

Dim Eisteddfod … Gŵyl Jazz Aberhonddu … blog arall yn sôn am fan’no.

Y rhai a gadwodd draw’n fwriadol? Tyff, mi golloch chi Eisteddfod dda. Ac mi golloch chi’r cyfle i roi hwb i ardal lle mae pendil yr iaith yn symud.