Mae disgwyl i gyn-filwr o ganolbarth Lloegr gwblhau taith 4,000 milltir ar hyd lannau yr afon Amason heddiw.

Fe ddechreuodd Ed Stafford, 34 oed, o Mowsley y daith epig wrth darddiad yr afon yn Periw 859 o ddiwrnodau yn ôl.

Yn ystod ei daith dwy flynedd a hanner, mae wedi osgoi sawl peth peryglus, gan gynnwys llyswennod mawr, nadroedd anaconda a sgorpionau.

Mae hefyd wedi cael ei garcharu, wedi cael ei erlid gan frodorion yn chwifio bwâu a saethau ac wedi cael ei gyhuddo ar gam o lofruddiaeth – ar ddau achlysur gwahanol.

Trwy bigo a brathu

Ers iddo ddechrau’r daith ar fynydd Mismi ym Mheriw ar Ebrill 2, 2008, mae hefyd wedi diodde’ cannoedd o bigiadau cacwn a thua 50,000 o frathiadau mosgito.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Ed Stafford heddiw fod disgwyl iddo gyrraedd aber yr afon yn Belem, Brasil, heddiw.

Wedi cyflawni’r antur, mae’n debyg mai Ed Stafford fydd y person cynta’ i gerdded yr holl ffordd ar hyd afon hiraf y byd.

Mae wedi defnyddio’r trip i godi arian i achosion da.