Fe allai llifogydd Pacistan effeithio mwy o bobol na chyfanswm y rheiny a ddioddefodd oherwydd y tri thrychineb gwaethaf i daro’r ddaear yn ddiweddar.

Fe rybuddiodd y Cenhedloedd Unedig y gallai mwy o bobol gael eu heffeithio nag yn achos tswnami Cefnfor India 2004, daeargryn Kashmir 2005, a daeargryn Haiti 2010.

Ffigyrau

Mae 1,500 o bobol wedi marw hyd yma, ond mae 13 miliwn wedi cael eu heffeithio ers i’r glaw trwm ddechrau bythefnos yn ôl – ac os yw hynny’n wir, mae hyn ddwy filiwn yn fwy nag a gafodd eu heffeithio gan y trychinebau eraill i gyd gyda’i gilydd.

Mae’r rhybudd yn tanlinellu graddfa’r trychineb, sydd wedi llethu llywodraeth Pacistan – llywodraeth sydd eisoes yn wynebu rhyfel parhaol yn erbyn y Taliban yn y wlad, yn ogystal ag economi gwan.

Mae’r awdurdodau a sefydliadau dyngarol wedi cael anhawster i gyrraedd pobol sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, gan fod y sustem drafnidiaeth wedi ei difetha gan y glaw.