Mae un o drefnwyr Mardi Gras cynta’ gogledd Cymru wedi dweud wrth golwg360 fod yr ymdrech a’r trefniadau’n mynd o nerth i nerth.

Dyw’r trefnwyr ddim wedi clywed “yr un gair negatif am y peth” eto, yn ôl Keith Parry, un o’r criw sydd am gynnal yr wyl ym Môn ym mis Ebrill y flwyddyn nesa’.

Fe ddywedodd fod “pawb wedi bod yn ffantastig o dda a chefnogol” i’r ŵyl Mardi Gras hoyw, lesbaidd, deurywiol a thrawsrywiol. Fe ddaw hyn wedi i’r tîm fod yn brysur yn codi arian at yr ŵyl dros benwythnos gŵyl y banc.

Mwy na’r disgwyl

“Er mwyn hyrwyddo’r carnifal fe aeth tri o ddrag cwins tafarn hoyw’r Three Crowns ym Mangor rownd strydoedd Llanberis ar 7 Awst eleni er mwyn casglu arian. Fe wnaethon nhw hefyd gerdded i fyny’r Wyddfa,” meddai Keith Parry.

Yr unig siom oedd bod y caffi wedi cau ar gopa’r Wyddfa, meddai.

“Roedd dau griw ffilmio yn ffilmio’r peth holl fordd i’r top hefyd.”