Mae heddlu Merthyr Tudful yn dal i ymchwilio i farwolaeth gyrrwr motorbeic ar Lwybr Taf.
Fe fu farw gwr 28 oed ger Pontsticill tua 7.30yh nos Sadwrn, Gorffennaf 10.
Tra’r oedd e ar gefn beic modur, fe yrrodd yn syth i mewn i far metel a oedd wedi ei osod ar draws y llwybr ger Ffynnon Dwyn, ac fe ddioddefodd anafiadau mawr i’w ben.
Mae swyddogion yn gofyn am help y cyhoedd er mwyn datrys yr achos. Fe ddylai unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y digwyddiad, gysylltu â Heddlu De Cymru ar y ffôn, trwy ddeialu 101, neu trwy ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.