Mae ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu i’r modd y cafodd dyn o Gaerdydd ei drin cyn ei farwolaeth, wedi dod i’r casgliad fod dau swyddog heddlu wedi gweithredu’n gymeradwy.

Fe gafwyd hyd i Bryan Saltmarsh, 47 oed, wedi marw ym maes parcio NCP, Wood Street, Caerdydd, ar 27 Ebrill – deuddydd wedi i ddau o swyddogion Heddlu De Cymru gael eu galw i hostel yn y Rhath a mynd â Bryan Saltmarsh oddi yno i loches ar gyfer y digartref yn y ddinas.

Heddiw, fe ddywedodd Comisiynydd IPCC ar gyfer Cymru, Tom Davies, ei fod yn “cydymdeimlo” gyda theulu a ffrindiau Bryan Saltmarsh a fu farw “mewn amgylchiadau trist”.

Trylwyr

Yn ôl canlyniadau’r ymchwiliad, roedd y ddau swyddog heddlu a gafodd eu galw i’r hostel wedi trin Bryan Saltmarsh gyda “gofal a chwrteisi” yn ogystal â’i hebrwng i fan ble y cai loches dros nos.

Yna, mae’n mynd ymlaen i ddatgan fod y swyddogion heddlu wedi penderfynu’n “gywir” nad oedd ganddyn nhw’r hawl i ddal a chadw Bryan Saltmarsh o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Roedd parafeddygon eisoes wedi cytuno nad oedd y dyn 47 oed yn berygl iddo’i hun nac i eraill. “Dw i, felly, yn cymeradwyo safon uchel eu gwaith i Heddlu De Cymru ac yn gobeithio eu bod yn cael cydnabyddiaeth briodol,” meddai Tom Davies.

Y cwest

Yn ôl cwest y crwner 5 Awst, wnaeth Bryan Saltmarsh ddim lladd ei hun yn fwriadol. Anawsterau tymor hir gydag alcohol a chyffuriau oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth.

Roedd swyddog tai mewn hostel yng Nghaerdydd wedi cysylltu â’r Heddlu 25 Ebrill ac wedi gofyn iddyn nhw ddal Bryan Saltmarsh oherwydd pryderon ynglŷn â’i ddiogelwch ef a staff.

Roedd aelod o staff yr hostel wedi cwyno i’r Comisiwn Cwynion ac wedi honni fod Bryan Saltmarsh wedi ceisio’i drywanu ei hun gyda siswrn o flaen y swyddogion. Mae hi’n mynnu y dylai Bryan Saltmarsh fod wedi’i gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae ei gyn-bartner hefyd wedi cwyno.