Fe gollodd Morgannwg o wyth wiced i Swydd Gaerhirfryn gyda 2.4 pelawd yn weddill gyda’r ymwelwyr ym Mae Colwyn.

Roedd Morgannwg wedi gwneud dau newid i’r tîm gollodd yn erbyn Surrey, gyda Jim Allenby a David Harrison yn cymryd lle Jamie Darlymple a Huw Waters.

Fe wnaeth bowlio effeithiol Tom Smith a Sajid Mahmood i’r ymwelwyr gyfyngu’r ymwelwyr i 33-5.

Ond fe helpodd batio Ben Wright (79), Mark Wallace (38) a Robert Croft (53) Morgannwg i orffen gyda sgôr digon parchus o 211-9.

Er hynny, fe gyfrannodd Tom Smith i achos Swydd Gaerhirfryn gyda’r bat hefyd gyda 61 o rediadau, cyn i Steven Croft gyfrannu 93 rhediad i ennill y gêm gyda 16 pêl yn weddill.