Mae’r sment sydd wedi cael ei chwistrellu i mewn i’r ffynnon olew yng Ngwlff Mecsico wedi aros yn ei le ac wedi dechrau caledu, yn ôl cwmni BP.
Mae peirianwyr yn paratoi ar gyfer rhan olaf y broses o selio ceg y bibell unwaith ac am byth, ac mae disgwyl iddyn nhw hefyd orffen drilio ail ffynnon yno erbyn y penwythnos nesa’.
Mae ganddyn nhw tua 100 troedfedd i dyllu er mwyn cysylltu â’r ffynnon sydd wedi bod yn gollwng ers misoedd, gan ryddhau miliynau o alwyni o olew i’r môr bob dydd.
Fe fydd y cwmni, wedyn, yn llenwi’r ffynnon â mwd a sment er mwyn ei selio o’r gwaelod hefyd.
207 miliwn galwyn
Yn ôl un adroddiad, dim ond 1% o’r 207 miliwn galwyn o olew a lifodd o’r ffynnon sy’n parhau ar wely’r môr.
Mae’r gweddill wedi’i gasglu, ei losgi, neu wedi cael ei waredu gan gemegau.