Mae dau ddyn yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â therfysgaeth, yn y tribiwnlys cynta’ i’w gynnal yng ngwersyll carcharorion Bae Guantanamo ers i Barack Obama gael ei ethol yn arlywydd.
Mae dyn 23 oed o Ganada wedi ei gyhuddo o ladd milwr o’r Unol Daleithiau yn Affganistan pan oedd yn 15 oed, ac mae dyn 50 oed wedi pledio’n euog i gyhuddiad o gynllunio a darparu deunydd ar gyfer cefnogi terfysgaeth.
Mae’r ddau wedi cael eu dal yn gaeth yn Guantanamo ers 2002.
Canllawiau newydd
Mae Barack Obama wedi gosod canllawiau newydd ar gyfer yr achosion, â’r amcan o roi mwy o hawliau i’r sawl sydd wedi cael eu cyhuddo.
Ond er bod yr Arlywydd wedi addo y byddai’r safle’n cael ei gau ymhen blwyddyn iddo gael ei ethol ddigwyddodd hynny ddim.
Roedd wedi dweud y byddai’r carcharorion yn cael eu trosglwyddo oddi yno, ond mae wedi cael trafferth perswadio gwledydd eraill i gymryd rhai ohonyn nhw.
Roedd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau wedi dweud fod yr achosion – neu’r comisiynau milwrol – sy’n cael eu cynnal yno, yn anghyfreithlon.
Bush
Fe gafodd y drefn wreiddiol o garcharu troseddwyr honedig ei sefydlu pan oedd George W Bush yn arlywydd rhwng 2000 a 2008.
Roedd hynny yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ar Efrog Newydd ar Fedi 11, 2001.