Fe fydd gan wledydd Prydain genhedlaeth newydd o orsafoedd pŵer niwclear ar waith o fewn wyth mlynedd, yn ôl yr Ysgrifennydd Ynni a Newid yn yr Hinsawdd, Chris Huhne.
Mae Chris Huhne wedi datgan hefyd na fydd y Llywodraeth yn rhoi cymorth ariannol i godi atomfeydd ar nifer o safleoedd newydd ar hyd a lled gwledydd Prydain.
Mewn cyfweliad ar raglen Today ar Radio 4 heddiw, fe ddywedodd fod buddsoddwyr yn barod i fwrw ymlaen â’r cynlluniau oherwydd y bydd angen tanwydd amgenach oherwydd y ffordd y mae prisiau nwy, olew a charbon yn dal i godi.
“Rydym mewn sefyllfa dda i wneud yn siŵr bod yr orsaf niwclear newydd gynta’ yn agor yn 2018,” meddai Chris Huhne.
“Nifer o safleoedd”
“Mae nifer o safleoedd wedi’u nodi o amgylch y wlad ac mae’r rheiny yn gyffredinol ar safleoedd lle’r ydyn ni wedi cael gorsafoedd pŵer niwclear o’r blaen, a lle mae’r bobol leol yn awyddus iawn i weld adeiladu gorsaf niwclear,” meddai Chris Huhne, heb fanylu ar ddyfodol y diwydiant niwclear yng Nghymru nac enwi’r un ardal benodol.
Fe ddywedodd bod wyth mlynedd yn ddigon o amser i sicrhau bod y cynlluniau’n cael eu cyflawni.