Mae actores enwog yn dweud i’r fodel, Naomi Campbell, sôn am dderbyn “diemwnt enfawr” gan ddyn sydd o flaen ei well am gyflawni troseddau rhyfel.

Wrth roi tystiolaeth i Lys Arbennig Sierra Leone yn yr Hag yn yr Iseldiroedd heddiw, mae Mia Farrow yn dweud i Campbell gyfeirio at yr em a dderbyniodd gan Charles Taylor, cyn-arweinydd Liberia.

Yr wythnos ddiwetha’, wrth gyflwyno Naomi Campbell, hithau, ei thystiolaeth i’r gwrandawiad, gan gydnabod iddi dderbyn rhywfaint o gerrig mân “budr” yr olwg ar ôl cinio a gynhaliwyd gan gyn-Arlywydd De Affrica Nelson Mandela yn 1997. Ond fe ddywedodd nad oedd yn gwybod pwy oedd wedi’u rhoi iddi.

Herio

Ond mae Mai Farrow wedi herio’r datganiad hwnnw, gan honni bod Naomi Campbell wedi dechrau siarad am ei rhodd werthfawr ben bore wedyn.

“O’r hyn dw i’n ei gofio, fe wnaeth Naomi Campbell ymuno â ni wrth y bwrdd, ond cyn iddi hyd yn oed eistedd i lawr roedd hi’n adrodd digwyddiadau’r noson gynt.

“Fe ddywedodd ei bod wedi cael ei deffro yn ystod y nos gan ddynion yn curo ar y drws. Roedden nhw wedi cael eu hanfon gan Charles Taylor, i roi diemwnt enfawr iddi.

“Fe ddywedodd hithau ei bod yn bwriadu rhoi’r diemwnt i elusen plant Nelson Mandela,” meddai Mia Farrow.

Yr achos

Wrth roi tystiolaeth yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Naomi Campbell ei bod wedi’i deffro yn y nos gan ddau ddyn yn cnocio ar ei drws. Dywedodd ei bod yn cael cwdyn o “gerrig budr” yr olwg ond nad oedd yn gwybod pwy oedd wedi’u rhoi iddi.

Mae Charles Taylor, cyn-lywydd Liberia wedi’i gyhuddo o droseddau rhyfel yn ystod rhyfel cartref Sierra Leone, gan gynnwys defnyddio diemwntau i ariannu gwrthryfelwyr.

Mae’n gwadu 11 o gyhuddiadau gan gynnwys llofruddiaeth, trais rhywiol, caethwasiaeth rhywiol a recriwtio plant yn filwyr.