Mae cyn-swyddog heddlu o Ogledd Iwerddon a oedd yn gweithio i gwmni gwasanaethau diogelwch wedi cael ei saethu’n farw yn Affganistan.

Roedd Ken McGonigle, 51, yn dad i bedwar ac yn dod o Magheramason ger dinas Derry. Fe gafodd ei saethu gan wrthryfelwr ar ffo.

Fe gafodd dau filwr o’r Unol Daleithiau hefyd eu lladd yn y digwyddiad yn Musa Qala yn nhalaith ogleddol Helmand.

Cysuro

Mae perthnasau a ffrindiau wedi bod yn cysuro Gail, gwraig Ken McGonigle a’i blant heddiw.

Fe ddywedodd eu gweinidog Eglwys Bresbyteraidd, y Parch David Hillen fod “pawb wedi’u digalonni gan y drasiedi ofnadwy hon”.

Roedd datganiad am ei farwolaeth yn ei ddisgrifio fel swyddog proffesiynol iawn, cymwys ac ymroddedig i’w waith.