Fe fydd penaethiaid banciau gwledydd Prydain yn arwain tasglu newydd i helpu rhoi hwb i lif credyd busnesau bychain.

Mae grŵp newydd Cymdeithas Bancwyr Prydain, o dan arweiniad penaethiaid chwe banc mwyaf y Deyrnas Unedig, wedi’i sefydlu er mwyn asesu’r galw am credyd gan gwmnïau sydd mewn trafferth yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Fe fydd y tasglu hefyd yn cyflwyno argymhellion i roi hwb i’r sector bancio.

Gwasanaeth dda

Heddiw, mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bancwyr Prydain, Angela Knight, yn dweud fod y banciau sydd dan ymbarél y corff hwnnw “yn darparu cyllid da i fusnesau hyfyw”, ond bod cwmnïau’n chwilio am fenthyg mwy o arian er mwyn talu dyledion o ganlyniad i’r dirwasgiad.

“Ar hyn o bryd, mae pob ystadegyn yn dangos bod darpariaeth dda o gyllid i fusnesau yn parhau,” meddai ar raglen Today ar Radio 4.

“Ar yr un pryd, mae busnesau wedi talu mwyafrif llethol eu dyledion yn ôl.”

Y tasglu

Fe fydd y tasglu, sef syniad a gafodd ei gynnig gan y diwydiant bancio ei hun, yn adrodd yn ôl i Ganghellor y Trysorlys, George Osborne, yn gynnar ym mis Hydref.  Stephen Green, cadeirydd banc HSBC, fydd yn cadeirio’r tasglu.