Fe allai prisiau petrol godi 8% erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiad heddiw.
Ac fe allai cost llenwi tanc wrth y pympiau gynnyddu 3% erbyn penwythnos Gŵyl Banc y mis hwn.
Mae’r rhybudd i yrwyr wedi dod gan y Diwydiant Manwerthu Moduron, Y Gymdeithas Annibynnol, a’r gymdeithas gwerthwyr, RMI Petrol, heddiw.
Bai ar y byd
Mae’r Gymdeithas yn rhoi’r bai am y cynnydd a ddisgwylir ym mhrisiau petrol ar batrymau arian o amgylch y byd, a’r cynnydd mewn prisiau olew.
Mae RMI Petrol, sy’n cynrychioli tua dwy ran o dair o 9,000 o fuarthau gwerthu petrol gwledydd Prydain, wedi dweud y gallai prisiau petrol godi mor uchel ag 125.9c y litr yn y flwyddyn newydd, gan chwalu’r lefel ucha’ hyd yn hyn, 121.61c.