Mae dwywaith yn fwy o farwolaethau nag arfer wedi digwydd ym mhrifddinas Rwsia yn ddiweddar, meddai prif swyddog iechyd y ddinas.

Ac mae’r mwrllwch sy’n cael ei gynhyrchu gan gannoedd o danau gwyllt sy’n llosgi ger Moscow, yn ogystal â gwres llethol yr haf, yn cyfrannu tuag at hyn, meddai Andrei Seltsovky.

Mae adroddiadau hefyd fod lefel uchel o lygredd yn yr aer am y pedwerydd diwrnod yn olynol, ac mae’n cael ei ystyried yn niweidiol i iechyd y trigolion.

Dros y penwythnos, roedd lefelau carbon monocsid saith gwaith yn uwch na’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ddiogel.

Dianc am eu bywydau

Mae pobol ym Mosgow wedi bod yn gwisgo mygydau er mwyn eu gwarchod eu hunain, ond mae llawer wedi dianc o’r ddinas.

Yn ogystal, mae gyrwyr cerbydau wedi bod yn gadael eu goleuadau ynghynn wrth yrru yn ystod y dydd, ac mae awyrennau wedi cael eu hatal rhag hedfan i mewn ac allan o’r ddinas.