Mae mosg a gafodd ei ddefnyddio gan ymosodwyr Medi 11 wedi ei gau, yn ôl awdurdodau’r Almaen.
Yn ôl adroddiadau, roedd mosg Taiba yn Hamburg yn arfer bod yn fan cyfarfod a recriwtio ar gyfer rhai o’r ymosodwyr, cyn iddyn nhw symud i’r Unol Daleithiau.
Corddi eto
Mae awdurdodau’r Almaen yn awgrymu bod yr un math o gyfarfodydd a’r un agweddau’n dechrau corddi eto o gylch y ganolfan grefyddol, a bod “elfennau radicalaidd” yno yn sôn am gymryd rhan mewn ‘jihad’, neu ryfel sanctaidd.
Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio’r adeilad, ac maen nhw wedi cymryd eiddo, gan gynnwys cyfrifiaduron, oddi yno. Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi cael ei arestio.
Mae cymdeithas ddiwylliannol oedd yn gysylltiedig â’r mosg hefyd wedi cael ei gwahardd.