Mae clerigwr Mwslimaidd wedi cael ei arestio yn Indonesia yn dilyn honiadau fod ganddo gysylltiadau â grŵp milwriaethus radical newydd yn y wlad.
Fe gafodd Abu Bakar Bashir ei arestio ar ynys Java yn sgil ei gysylltiad â grŵp sy’n galw eu hunain yn al Qaida in Aceh – Aceh yw talaith fwya’ gorllewinol y wlad.
Roedden nhw’n cynllunio i ladd arlywydd Indonesia, yn ôl yr awdurdodau, ac yn cynllunio i ymosod ar ymwelwyr tramor.
Fe gafodd y grŵp ei ddarganfod ym mis Chwefror, ac mae nifer o’r aelodau wedi cael eu harestio neu eu lladd gan yr awdurdodau ers hynny.
Abu Bakar Bashir
Roedd Abu Bakar Bashir wedi treulio rhai blynyddoedd yn y carchar yn dilyn y bomiau a gafodd eu ffrwydro yn Bali yn 2002, pryd lladdwyd 202 o bobol.
Ef oedd arweinydd ysbrydol a sefydlwr Jemaah Islamiyah, sef y grŵp terfysg – sy’n cael ei noddi gan al Qaida – a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Bali.
Mae’n adnabyddus am ei bregethau sy’n gwrthwynebu tramorwyr.