Cyn-chwaraewr Abertawe, Andy Robinson, yw’r diweddaraf i gael ei gysylltu gyda throsglwyddiad i glwb Castell-nedd.

Yn ôl adroddiadau, mae chwaraewr canol cae Leeds, sydd wedi chwarae 235 o gemau yn y Gynghrair Bêl-droed, wedi cytuno ar amodau ymuno gyda chlwb Uwch Gynghrair Cymru.

Mae Castell-nedd eisoes wedi arwyddo cyn-chwaraewyr Abertawe, Lee Trundle, Kris O’Leary a Chad Bond dros yr wythnosau diwetha’.

Dyrchafiad

Fe chwaraeodd Robinson 192 o gemau i’r Elyrch, gan sgorio 43 gôl, gan helpu’r clwb i ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth.

Ond fe wrthododd cytundeb newydd gydag Abertawe i ymuno gyda Leeds diwrnod cyn i glwb Elland Road fethu â dilyn yr Elyrch i’r Bencampwriaeth ar ôl colli i Doncaster yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle.

Mae anafiadau wedi atal Robinson rhag chwarae’n gyson i Leeds dros y tymhorau diwetha’, ac fe fydd yn awyddus i gael chwarae’n gyson unwaith eto.

Fe fyddai sicrhau llofnod chwaraewr mor brofiadol yn hwb mawr i obeithion Gastell-nedd wrth iddynt geisio herio am Uwch Gynghrair Cymru’r tymor hwn.

Ond mae asiant Andy Robinson wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn awyddus i chwilio am glwb iddo yn y Bencampwriaeth, a gan fod y chwaraewr ond yn 30 oed, fe allai fod yn awyddus i wneud hynny.