Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud ei fod yn disgwyl i fwy o chwaraewyr newydd ymuno gyda’r clwb yn fuan.
Fe gafodd yr embargo trosglwyddo chwaraewyr ei godi ddydd Gwener, ond doedd Dave Jones ddim ond yn gallu enwi pedwar eilydd cyn y gêm gyfartal yn erbyn Sheffield Utd ddoe.
“Nawr bod yr embargo wedi codi, rwy’ i wedi siarad gyda’r perchnogion ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw yma am y tymor hir ac yn cydnabod bod angen chwaraewyr newydd,” meddai.
“Fe fyddai’n siomedig os na fydd dau chwaraewr newydd yn ymuno o fewn y dyddiau nesa’.”
Koumas yno’n barod
Fe ymunodd Jason Koumas gyda’r Adar Gleision yr wythnos ddiwetha’, ond mae Dave Jones wedi dweud bod angen deg i bymtheg diwrnod arno cyn bydd y Cymro’n ôl yn hollol ffit.
Mae capten Caerdydd, Mark Hudson wedi datgelu bod cadeirydd y clwb, Dato Chan Tien Ghee, wedi cyfarfod y chwaraewyr awr a hanner cyn y gêm i’w sicrhau y bydd y clwb yn cryfhau’r garfan.
“R’yn ni wedi cael sicrwydd y bydd mwy o chwaraewyr yn ymuno sy’n beth wych i Gaerdydd,” nododd Hudson.