Mae yna beryg na fydd Tiger Woods yn chwarae yn y Cwpan Ryder yng Nghasnewydd yn yr hydref – am nad yw’n ddigon da.

Fe fyddai hynny’n ergyd fawr i’r trefnwyr gan mai’r chwaraewr o’r Unol Daleithiau yw’r enwoca’ yn y byd.

Fe ddywedodd ei hun fod posibilrwydd na fydd yn cael ei ddewis i chwarae i’r Unol Daleithiau oherwydd safon ei chwarae ar hyn o bryd.

Fe gafodd ei ganlyniad gwaetha’ erioed mewn cystadleuaeth fawr ym Mhencampwriaeth Golff Proffesiynol y Byd ddoe ar ôl rownd ola’ o 77.

Ar ôl gorffen, fe ddywedodd ei hun fod safon ei chwarae’n wael – mae wedi diodde’ ers iddo geisio dod yn ôl ar ôl ei helyntion personol.

“Fyddai rhywun sy’n sgorio 18 ergyd tros y safon ddim yn help i unrhyw dîm,” meddai.

(Llun AP Photo)