Mae John Toshack wedi colli un o’i chwaraewyr mwya’ profiadol wrth iddo baratoi Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewro 2012.

Fe gyhoeddodd y chwaraewr canol cae, Simon Davies, ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl ennill 58 o gapiau a sgorio 6 gôl tros ei wlad.

Fe fu’r chwaraewr 30 oed yn diodde’ gyda’i droed ers peth amser a dim ond unwaith y mae wedi chwarae i Gymru mewn mwy na blwyddyn.

Fulham

Y gred yw ei fod am ganolbwyntio ar barhau ei yrfa gyda’i glwb, Fulham, lle mae cyn reolwr Cymru, Mark Hughes, newydd gymryd yr awenau.

Yr wythnos ddiwetha’, roedd John Toshack yn dweud pa mor bwysig oedd chwaraewyr profiadol fel Davies wrth arwain ei chwaraewyr ifanc.

Roedd Davies yn y sgwad ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Luxembourg nos Fercher ac mae Cymru’n dechrau eu hymgyrch go iawn yn erbyn Montenegro ym mis Medi.

• Mae’r blaenwr Sam Vokes hefyd allan o’r sgwad nos Fercher ac mae amheuon am Ched Evans hefyd.