Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau fod dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Y Groes ger Dinbych ddoe.

Fe fu’r dyn a oedd yn gyrru beic modur farw yn y fan a’r lle ar ôl gwrthdrawiad gyda lorri ar ffordd yr A543.

Roedd yn teithio i gyfeiriad Dinbych ac mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw dystion.

Fe gafodd gyrrwr y lorri fân anafiadau ac mae teulu’r beiciwr wedi cael gwybod.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu’r Gogledd ar 0845 607 1002.