Mae achubwyr yn chwilio am tua 1,300 o bobl ar ôl i ddŵr a rwbel lifo trwy un o ardaloedd mwya’ anghysbell gogledd-orllewin China.

Mae’r llifogydd wedi malurio adeiladau, troi ceir ben i waered a lladd o leia’ 127 o bobol.

Mae criwiau achub yn gweithio i atgyweirio llinellau trydan a chysylltiadau cyfathrebu mewn rhai mannau yn y de – o ganlyniad, dyw’r awdurdodau ddim yn gwybod eto faint o’r bobol sydd mewn peryg.

Mewn rhai ardaloedd, mae’r awdurdodau wedi bod yn cario pebyll, blancedi a chyflenwadau argyfwng eraill.

Yn ôl swyddogion, y ‘mwd yw’r broblem fwya’ wrth geisio achub pobol gan ei fod yn rhy drwchus i gerdded neu yrru drwyddo.

Ar draws China, mae llifogydd gwaetha’r degawd diwetha’ wedi lladd mwy na 1,100 o bobol eleni. Mae 600 arall yn dal i fod ar goll ers hynny.

Mae’r dyfroedd wedi achosi gwerth degau o biliynau o ddoleri o ddifrod dros 28 o ranbarthau ac ardaloedd.

Llun: Pobol yn galaru yn China (AP Photo)