Fe allai clybiau Abertawe a Chaerdydd gydweithio i brotestio yn erbyn ymgais Nottingham Forest i fachu eu chwaraewyr gorau.

Mae’r ddau glwb wedi diodde’ wrth i Gadeirydd Forest, Mark Arthur, ddweud bod chwaraewyr eisiau gadael Cymru am ddwyrain y Midlands.

Mae Caerdydd ac Abertawe’n cwyno fod ei sylwadau’n hollol groes i’r rheolau, sy’n dweud na ddylai clybiau eraill siarad gyda chwaraewyr heb ganiatâd.

Yn ôl Mark Arthur, mae Peter Wittingham eisiau gadael Caerdydd a Darren Pratley eisiau gadael Abertawe ac yn awyddus i fynd at Forest, sy’n un o brif gystadleuwyr y ddau glwb yn y Bencampwriaeth.

Fe ddywedodd mewn cyfweliad fod y ddau chwaraewr yn dod i ddiwedd eu cytundebau ac y bydd rhaid i’r clybiau eu gwerthu yn y diwedd.

‘Anghywir’

Roedd hynny’n anghywir, meddai cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wrth Radio Wales ac fe awgrymodd y dylen nhw a Chaerdydd weithio ar y cyd i “amddiffyn eu clybiau”.

Fe aeth rheolwr Caerdydd, Dave Jones, ymhellach gan ddweud fod ymddygiad Forest yn “gwbl anghywir” a bod Peter Whittingham yn dweud wrth ef ei fod am aros yn y brifddinas.

Dechrau sâl a gafodd y ddau glwb i’r tymor newydd, gydag Abertawe’n colli 2-0 i Hull a Chaerdydd yn methu â manteisio i guro deg dyn Sheffield United. Cyfartal 1-1 oedd hi gartref yng Nghaerdydd.

Llun: Un o dargedi Forest – Peter Whittingham