Wrth i ragor o law fygwth Pacistan, mae awdurdodau’r wlad wedi rhybuddio bydd angen biliynau o ddoleri i adfer ac ail-adeiladu ar ôl y llifogydd gwaethaf yn hanes y wlad.
Yn ôl y swyddfa dywydd ym Mhacistan, fe fydd rhagor o law yn ystod y dyddiau nesa’, gyda’r posibilrwydd o lifogydd yn effeithio ar ddinasoedd mawr fel Karachi.
Eisoes, mae mwy na 1,600 o bobol wedi eu lladd. Yn ôl y Llywodraeth, mae tua 15 miliwn o bobol wedi’u heffeithio – er bod amcangyfrif y Cenhedloedd Unedig yn llai na hynny.
Wedi ei ynysu
Mae achubwyr yn dweud bod Dyffryn Swat yn y Gogledd-orllewin – sydd eisoes yn dioddef oherwydd rhyfel rhwng y Llywodraeth a gwrthryfelwyr – wedi ei ynysu’n llwyr.
Mae hofrenyddion yn cael trafferth i godi oherwydd y tywydd a’r wlad fynyddig yn ei gwneud hi’n anodd iawn i anfon cymorth.
Pryder pellach yw y bydd y llifogydd yn effeithio ar lefydd yn is i lawr yr afonydd mawr. Ddoe, roedd afon Indus wedi gorlifo’i glannau gan chwalu pentref cyfan.
Mwy o bwysau
Ond mae’r corff rhyngwladol yn dweud y bydd yr argyfwng yn rhoi mwy o bwysau eto ar wlad sydd eisoes yn ddibynnol ar gymorth tramor i gynnal ei heconomi ac i gefnogi’r rhyfel yn erbyn gwrthryfelwyr Islamaidd.
Mae swyddogion wedi cadarnhau fod o leiaf 53 o bobl wedi’u lladd mewn tirlithriadau yng ngogledd Pacistan yn ystod y dyddiau diwetha’.
Er bod llywodraethau a phobol gyffredin wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd eisoes, mae llysgennad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y trychineb, Jean-Maurice Ripert, wedi dweud y bydd angen llawer mwy o gymorth tramor gydag amser.
Y llifogydd gwaethaf
Bydd angen llawer o’r arian yn nhalaith Khyber Pakhtunkhwa yn y Gogledd-orllewin lle mae’r llifogydd gwaethaf.
Mae’n debyg bydd angen cymorth bwyd ar o leiaf bedair miliwn o bobol yn ystod y tri mis nesaf.
Mae Prif Weinidog Pacistan wedi galw am fwy o gymorth gan y gymdeithas ryngwladol ddoe ac wedi datgan na fydd y Llywodraeth yn gallu delio gyda’r trychineb ar ei phen ei hun.
Llun: Map tywydd gan asiantaeth dywydd Pacistan yn dangos y bygythiad