Fe fyddai’n rhaid i weithwyr dosbarth canol dalu llawer mwy am eu graddau nag ar hyn o bryd, os bydd y Llywodraeth yn cyflwyno treth arbennig.
Fe fyddai nyrsys graddedig yn talu £36,000 yn fwy tros eu cyfnod gweithio ac athrawon uwchradd yn talu £46,000, meddai Undebau’r Colegau a’r Prifysgolion.
Mae’r ffigurau wedi eu seilio ar dreth ychwanegol o 5% ar holl enillion pobol raddedig, ar ôl i’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, awgrymu treth o’r fath.
Does dim ffigurau swyddogol wedi eu rhoi eto ac mae’n ymddangos bod Ceidwadwyr o fewn llywodraeth y glymblaid yn anhapus.
Fe awgrymodd y Gweinidog Gwladol tros Brifysgolion fod cyfaddawd ar y ffordd. Ar raglen deledu ddoe, fe ddywedodd David Willetts y dylai graddedigion dalu rhagor wrth ennill rhagor – yn hytrach na chael treth ‘bur’ ar eu holl enillion.
Pryder y Ceidwadwyr yw y byddai graddedigion yn gorfod talu mwy na chost eu graddau ac y byddai’r arian yn mynd i’r Trysorlys yn hytrach na’r prifysgolion.