Mae un o bob tri o gyflogwyr yn bwriadu diswyddo gweithwyr yn ystod y tri mis nesa’, yn ôl arolwg newydd.
Fe fydd y toriadau mwya’ yn y sector cyhoeddus – yn ôl yr arolwg, fe fydd bron 8% o’r gweithlu cyhoeddus yn cael eu heffeithio yn y pen draw.
Dyma’r rhagolygon gwaetha’ ers mwy na blwyddyn ac maen nhw’n codi amheuon a fydd y cynnydd diweddar mewn swyddi’n parhau.
Dadwneud
Roedd yr arolwg wedi ei wneud i Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu gan gyfrifwyr KPMG gan holi 600 o gyflogwyr.
Yr awgrym yw y bydd unrhyw gynnydd mewn swyddi yn y sector preifat yn cael ei ddadwneud gan doriadau yn y sector cyhoeddus.
Y disgwyl yw y bydd cymaint â 600,000 o swyddi’n mynd yn y sector cyhoeddus yn ystod y pum mlynedd nesa’, wrth i’r Llywodraeth yn Llundain dorri ar wario.
Yn ôl Gerwyn Davies ar ran y Sefydliad, mae’n bosib bellach y bydd diweithdra’n cynyddu yn ystod y misoedd nesa’.
Llun (lijjccoo – Trwyded GNU)