Mae elusen Barnardos wedi galw am newidiadau mawr ar ôl iddi ddod yn amlwg bod plant bregus yn aros am fwy na blwyddyn cyn gwybod a ydyn nhw’n cael eu cymryd i ofal.
Yng Nghymru, mae’r sefyllfa’n amrywio o le i le – yn 47 wythnos ar gyfartaledd yn y Gogledd-orllewin ac yn 59 wythnos yn y De-ddwyrain.
Yn ôl Barnardos, mae angen torri ar y cyfnod aros i 30 wythnos neu lai i’r rhan fwya’ o blant, gyda threfn gyflym arbennig o 12 wythnos neu lai i blant o dan 18 mis oed.
Ddiwedd 2009, trwy Gymru, roedd yna 71% yn fwy o blant yn dal i aros am benderfyniad nag oedd ar ddiwedd 2008 – 836 o blant o’i gymharu â 488.
‘Pryder’
Yn y cyfamser, mae’r plant yn gorfod aros gyda’u teuluoedd – lle mae pryder am gam-drin neu esgeulustod – neu’n cael eu cadw mewn cartrefi maeth tros dro.
“Ar adeg pan fo perthnasau sefydlog a chysylltiadau diogel yn hanfodol i blant, maen nhw’n hytrach yn cael eu hamgylchynu gan ansicrwydd a dryswch,” meddai Cyfarwyddwraig Barnardos Cymru, Yvonne Rodgers.
Un o’r problemau yw bod mwy a mwy o’r llysoedd – llysoedd teulu, llysoedd ynadon a llysoedd sirol – yn gofyn am dystiolaeth arbenigol cyn penderfynu.
Yn ôl Barnardos, mae hynny’n dangos fod yna ddiffyg hyder yn yr hyn y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei ddweud.
Rhagor o newidiadau
Mae’r elusen hefyd yn galw am newidiadau eraill:
• Cynnal cynadleddau o deuluoedd estynedig i geisio sicrhau gofal gan berthnasau yn ystod y cyfnod aros.
• Hyfforddi staff llysoedd i ddeall beth yw effaith yr oedi.
• Creu fforymau cyswllt rhwng staff cymdeithasol a chyfreithiol.
“Rhaid i’r llysoedd feddwl ar unwaith am y difrod y mae’r oedi yn ei wneud. Mae blwyddyn ym mywyd plentyn yn amser annerbyniol o hir i’w cadw mewn limbo diobaith, yn ansicr o ran eu dyfodol ac, efallai, mewn peryg,” meddai Yvonne Rodgers.
Yn ôl yr Adran Gyfiawnder yn Llundain, mae yna adolygiad ar droed eisoes ac roedd penderfyniad wedi ei wneud ynghynt yn y flwyddyn i sicrhau 4,000 o ddyddiau’n fwy o amser llys.
Llun: Plentyn o lun cyhoeddusrwydd gan Barnardos