Mi fentrodd dros 100 o bobol ar rolercoster heddiw… yn hollol noethlymun.

Roedd y 102 yn Southend-on-Sea, Essex, yn rhan o ymdrech i dorri record byd, wedi i 32 o bobol geisio gwneud yr un peth ym mharc Alton Towers, Swydd Stafford yn 2004.

Yn ôl trefnydd yr ymgais, Tracy Jones, fe gafwyd tair reid i gyd, gan godi arian at achos da yr un pryd.

Maen nhw’n aros i glywed os ydyn nhw wedi torri record byd.