Mae teulu’r meddyg a laddwyd yn Affganistan, wedi gwrthod honiadau ei bod hi’n genhades Gristnogol.
Roedd Karen Woo, 36, yn un o naw o weithwyr dyngarol a laddwyd gan saethwyr yn ardal Kuran Wa Munjan yn rhanbarth Badakhshan.
Mae’r Taliban wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad. Yn ôl llefarydd, fe gafodd y gweithwyr eu lladd oherwydd eu bod yn “pregethu Cristnogaeth” ac yn “cario gwybodaeth yn ôl i America”.
Ond mewn datganiad, mae teulu Dr Woo wedi dweud: “Doedd ganddi yr un cymhelliad crefyddol, dim ond bwriad i wneud daioni. Dyneiddwraig oedd hi, a doedd ganddi ddim agenda grefyddol na gwleidyddol.
“Roedd hi am i’r byd wybod fod yna fwy na rhyfel yn digwydd yn Affganistan – sef bod pobol yn diodde’, heb y pethau sylfaenol sy’n angenrheidiol i fywyd.”