Mae awdurdodau Gogledd Corea wedi cipio un o gychod pysgota De Corea yn y dyfroedd ar arfordir ddwyreiniol y ddwy wlad.
Mae gwylwyr y glannau yn Ne Corea yn dweud i’r pysgotwyr gael eu holi heddiw ar gyhuddiad o fentro i ddyfroedd y Gogledd. Fe gafodd y cwch pysgota ei hebrwng wedyn i borthladd yng Ngogledd Corea.
Yn ôl gwylwyr y glannau, dyw hi ddim yn gwbwl glir ymhle’n union oedd y cwch pan gafodd ei gipio.
Fe ychwanegodd y cyhoeddiad hwn at y tensiwn rhwng y ddwy wlad a gynheuwyd ym mis Mawrth, wedi i un o longau rhyfel De Corea. Gogledd Corea gafodd y bai, er bod y wlad yn gwadu hynny.