Mae dweud wrth y byd ei fod e’n hoyw wedi rhyddhau cyn-gapten tim rygbi Cymru o fyw bywyd o gelwydd.
Mewn cyfweliad gyda phapur newydd yr Independent on Sunday heddiw, mae Gareth Thomas, a ddaeth i’r brig mewn rhestr o ‘arwyr’ hoyw gan y cyhoeddiad yr wythnos ddiwetha’, yn dweud mai dweud y gwir am ei rywioldeb yw un o’r pethau gorau iddo eu gwneud yn ystod ei fywyd.
Bellach, mae wedi derbyn miloedd o lythyrau cefnogaeth gan bobol o bod cefndir a gwlad, a hynny er mai ef oedd y chwaraewr rygbi proffesiynol cynta’ i ‘ddod allan’.
“Fe fydden i’n fodlon rhoi lan bob uchelgais ym myd rygbi am un o’r llythyrau hynny,” meddai Gareth Thomas wrth yr Independent on Sunday, cyn mynd yn ei flaen i ddiolch am gefnogaeth ei gyd-chwaraewyr yn y byd gwrywol hwnnw.
“Roedden nhw’n grêt,” meddai Gareth Thomas. “Fe helpon nhw ni fi i sylweddoli fod y rhai o’n i’n credu fyddai’n fy ngwrthod, yn cynnig eu cefnogaeth i mi.”