Dylan Iorwerth ym mhrif ddiwrnod Gŵyl Jazz Aberhonddu … ar ei newydd wedd … Prif luniau gan Rob Froud
Dydd Sadwrn
10.50
Cyrraedd ychydig yn hwyr i gael tocyn y wasg a chyrraedd y cyngerdd cynta’. Hwyrach fyth ar ôl deall bod y swyddfa docynnau wedi symud … arwydd o’r drefn newydd.
Rhuthro i lawr i Goleg Crist – yr ysgol fonedd leol. Dyna’r pencadlys bellach, nid canol y dref. Arwydd o’r amserau?
11.05
Penderfynu nad oedd gobaith cyrraedd y cyngerdd am 11.00. Aros ar y lawnt yng Ngholeg Crist i edrych o gwmpas a chymharu efo’r hen drefn.
Er gwaeth: Canol y dref yn dawel. Dim tocynnau crwydro na chyfle i weld bandiau o Gymru – angen newid hynny. Dim sôn o’r bwydydd ethnig amrywiol – fel y dyn Indiaidd o Gasnewydd efo’r tyrban Draig Goch. Dim gair o Gymraeg yn unman … llai hyd yn oed nag o’r blaen.
Er gwell: Y lawnt yn braf ac ychydig stondinau o gwmpas. Mwy o fwydydd Cymreig – byrgyrs cig lleol, Blas ar Gymru yno yn cynnig samplau … omlet bara lawr, ffagots, sosej lleol, cawl pysgod o Sir Fôn … dan ofal Rolant Tomos. Cwrw lleol hefyd.
Er gwell neu waeth: Mwy o drefn broffesiynol.
Yr un peth: Sulwyn Thomas a Glenys yn landio.
12.00 Y gig cynta’.
Marcî ar dir yr ysgol – yn debyg i’r un ym Maes C.
Y band – y Kairos Quartet … dechrau ar rywfaint o is-thema, o fandiau o fechgyn cymharol ifanc yn canu jazz Ewropeaidd … yn tynnu ar ddylanwad cerddorion Sweden a llefydd felly, yn ogystal ag America.
Y ffeithiau: Sacsoffonydd (Adam Waldmann), Pianydd (Ivo Neame), Drymiau (John Scoti), Bâs (Jasper Hølby)
Sacsoffonydd – gwallt fel Affro Ewropeaidd a rhyw hanner barf; pianydd – mop o wallt lled gyrliog; basydd – gwallt golau at ei goler sy’n gorfod cael ei daflu’n ôl bob hyn a hyn; drymiwr – gwallt byr, llygaid treiddgar.
Dechrau meddwl am thema arall … jazz fel anifeiliaid ac adar. Weithiau mae’r sacs yn hedfan ‘arddull y pedwarawd yma. Maen nhw’n creu awyrgylch a’r sacs – soprano neu denor – yn chwarae llinellau tawel wrth i’r bâs a’r drymiau liwio’n ysgafn yn y cefndir. Mae gwefusau’r basydd yn symud wrth iddo leisio’r nodau’n dawel cyn eu byseddu ar y llinynnau; mae’r drymiwr yn edrych yn galed a di-ffocws i unman wrth ganolbwyntio ar y bît.
Dechrau’r drydedd gân, y sacs fel petai’n galw ac ateb arno’i hun ac yna ailadrodd dau nodyn wrth i’r offerynnau cefndir gryfhau a chyflymu. Un o fy hoff bethau mewn jazz, y newid mewn angerdd a’r cryfhau graddol at uchafbwynt ac yna tawelu wedyn. Mae’n digwydd bron heb ichi sylwi. A nodau herciog y sacs yn troi’n frawddegau hir, cyn i’r piano ddilyn yr un patrwm.
Y gân Passage yn dechrau â phawb efo’i gilydd yn camu’n drwm ac yna canu mwy agored a theimlad o fynd am dro hamddenol, braf. Wedyn y bâs fel rhywun yn cerdded a hanner rhedeg bob yn ail, ac yn edrych dros ei ysgwydd. Ai dyna oedd gan y band yn eu meddwl? Wel, dyna oedd gen i.
Dechrau da.
1.30
Rhuthro draw i Theatr Brycheiniog, hyd y llwybr ar lan yr afon. Y broblem fwya’ – osgoi baw ci a’r dynion canol oed hŷn sy’n edrych yn wirion yn eu hetiau gwellt a’u crysau-T o ryw daith annelwig gan fandiau mwy annelwig fyth.
Grêt o le ar gyfer jazz canolig – rhwng triawd tawel a bandiau mawr. Parhau’r thema Ogleddol efo band o Stockholm.
Y ffeithiau. Sacsys – Elin Larsson – merch bryd tywyll mewn ffrog haf ddu efo blodau, ond yn chwythu yn llawn cythrel. Kristian Persson ar y trombôn – efo cap fel Gilbert O’Sullivan. Nhw ydi’r ddau allweddol. Y gitâr, y bâs a’r drymiwr yn gwneud fawr mwy na chyfeilio. (Y drymiwr yn gwisgo cap GO’S hefyd – jyst y peth yn Stockholm).
Yn rhyfedd iawn, mae hi’n llai Sgandinafaidd na’r Saeson – jazz caled ydi hwn. Nid chwythu’n hamddenol y mae hi ond gwthio’r offeryn i’w eitha’. Wrth ganu, mae hi’n edrych yn fyr, yn crymu ei chefn tros y sacs, neu’n plygu’i phengliniau wrth bwyso’n ôl i wasgu’r ynni ola’ o’r offeryn. Wrth siarad, mae hi’n dal ar ei sgidiau platfform.
Ond mae caneuon y Llychlynwyr yn gwneud beth sydd ar y bocs. Os teitl y gân oedd ‘Awyr Dywyll’, roedd y gerddoriaeth yn swnio felly … curiad ara’ a rhyw hanner alaw’n troi’n gyd chwarae bygythiol rhwng y sacs a’r trombôn … roedd ‘Ennyd yn yr haul’ yn swnio i ddechrau fel golau trwy ddail, cyn agor a ‘Mornington’ yn brotest yn erbyn gwesty oedd yn cwyno am gerddoriaeth uchel. O ganlyniad, roedd y gitâr, y trombôn a’r sacs yn eu tro yn dechrau’n dawel, dawel cyn gorffen yn ffrwydrad dig o sŵn.
Gwell eto.
Prynu CD cynta’r dydd … pentwr ar y bwrdd y tu allan … bocs yn dweud £10 … neb yn gwylio. Dyna be ydi ffydd yn y ddynol ryw. Stwffio’r papur i’r bocs a mynd â’r albwm. Edrych ymlaen at wrando rhagor.
3.00pm
Y-hy, y-hy, y-hy. Allan o wynt ar ôl rhuthro i fyny’r rhiw i’r Eglwys Gadeiriol. Y piano y bâs a’r drymiau ym mhen ucha’ corff yr eglwys, o dan fwâu uchel y darn croes. Y tu ôl, y ffenest liw.
Triawd Kit Downes – criw o fechgyn ifanc eto a’r dyn ei hun wedi ennill gwobr y Seren Newydd yng Ngwobrau’r BBC yn 2008. Gwallt yn gynffon fach y tu ôl i’w ben.
Ffeithiau: Kit Downes ar y piano, gwallt yn gynffon fach y tu ôl i’w ben. Y basydd, Camu Geiriol, ychydig fel arth garedig, farfog. Y drymiwr, James Maddren, yn effro i gyd.
Y bâs dwbl sydd yn y canol, a’r pianydd a’r drymiwr o boptu, yn cwmanu ymlaen ychydig, fel pâr o gromfachau.
A nhwthau yn yr eglwys gadeiriol, roedd sawl darn yn dechrau’n ddefosiynol bron ar y piano cyn chwyddo a chyflymu, a thawelu’n ôl. Cân deyrnged i’r canwr blws Skip James yn enghraifft berffaith. Yn rhyfedd iawn ‘Skip James’ oedd enw’r gân. Dechrau’n hamddenol a breuddwydiol, cynyddu’n raddol, ail adrodd yr un patrwm efo’r naill law a’r llall a thawelu’n ddim ond tincial ar nodau ucha’r piano, sibrwd ar y bâs a siffrwd ar groen y drwm.
Anifeiliaid … dwn im? Ond roedd y bumed cân fel storm mewn jyngl (am wn i). Nodau fel cloch yn troi’n alaw ara’ ramantus cyn i ryferthwy’r storm daro a chilio a chryfhau eto’n rhuthr o sŵn efo’r llaw chwith. Y bâs wedyn fel sŵn y diferion trwm oddi ar y dail cyn i’r drymiau a’r bâs orffen efo llifeiriant o nodau, fel dŵr glaw’n creu nentydd bach.
Roedd bendith y Testament Newydd a digofaint yr Hen yn y darn dwbl ola’. Ysgafnder y gwlith yn syrthio’n troi’n fellt.
Enw newydd i fi … a’r ail CD.
5.00pm
Lle chwyslyd ydi Neuadd y Farchnad os ydi hi’n ddiwrnod braf. Gweddol ydi heddiw, diolch byth. Ond mae’r adeilad hir o garreg, gyda’r distiau haearn ar ychydig o newydd wedd. Llenni du i lawr yr ochrau, i helpu efo’r sain; lle gwell i’r camerâu teledu a’r offer sain a thair sgrin fawr – un y tu cefn i’r llwyfan a’r ddwy arall ar waelod y ddwy ochr i ddatrys y problemau gweld.
Charlie Musselwhite ydi’r boi – yn ffresh o gael ei dderbyn i Oriel Anfarwolion y cantorion blŵs. Tydi’r blŵs ddim yn jazz ond tydio ddim ddim chwaith. Yn enwedig wrth i Musselwhite fynd i mewn i’w unawdau ar yr harmonica … neu’n hytrach ar y llond cês metel o wahanol organau ceg ar y bwrdd o’i flaen. A’r gitarydd yn torri’n rhydd am funudau ar y tro a chael bonllefau o gymeradwyaeth.
Ffeithiau: Charlie Musselwhite (croes rhwng Johnny Cash a David Niven, efo hanner-gwên ar ei wefus, gwên lot o fyw yng nghorneli’i lygaid a brylcreem yn ei wallt), June Core ar y drymiau, Mike Phillips gitâr fâs, a Mike Stubbs ar y gitâr flaen, ychydig fel Gavin Henson gwyn neu’r bardd Eurig Salisbury ymhen deng mlynedd arall.
Blŵs go iawn. Dwy gân am ferched gyda choesau hir (mor hir â dydd o haf, neu mor hir fel ei bod yn cysgu yn y gegin a’i thraed allan yn y pasej). Un arall am Highway 61 o Memphis i Chicago a thu hwnt, y ffordd a ddilynodd Musselwhite ei hun pan oedd yn ddeunaw ac arwain at gân arall, Stranger in a Strange Land. “Blues is your companion and the world is your home.”
Rhai’n llawn mynd, rhai’n ara’ a phruddflwyfus a’r cyfan yn llawn o orfoledd a phoen byw. Yn nwylo Musselwhite, mae’r organ geg yn gerddorfa o beth, mor gyfoethog â sacs.
Meddwl wnes i am Iwan Llwyd.
6.30pm
Portico. Enw band. Criw arall (eto) o ddynion ifanc. Hollol ddifrifol, fel mae’r genhedlaeth yma’n dueddol o fod. Arbrofol ac addawol (medden nhw).
Ffeithiau: Jack Wylie (sacsoffonau a’r pedlau trydan – gwallt byr, crys-T a golwg fel pe na bai’n siŵr pam ei fod yno); Duncan Bellamy, drymiau (a sawl peth arall, un sy’n lliwio nid cadw amser); Milo Fitzpatrick ar y bâs dwbl (byr, gwallt golau’n canolbwyntio gant y cant), Nick Mulvey (y padelli crog).
Ie, padelli crog – hang drums yn ôl y rhaglen. Pethau sy’n edrych fel woks efo caeadau a phantiau yn y rheiny. Sŵn fel drymiau dur, clychau Nadolig neu’r clychau tiwb.
Creu golygfeydd mewn sain y mae’r rhain. Haen ar ôl haen o liw ac wedyn y sacs yn sgriblo neu ddarlunio trostyn nhw. Neu sblashio fel Jackson Pollock. Golygfeydd o’r jyngl ydyn nhw … mae’r sŵn o’ch cwmpas ymhobman, crafiadau fan hyn, hanner-sgrech fan draw ac ambell nodyn yn cael ei ddal ar y pedalau electronig, yn holl bresennol fel cân y cicada. (Dwn i ddim oes yna gicada yn y jyngl ond mi ddylai fod).
Weithiau, mae’r tabyrddau crog yn fesmeraidd, a’r sŵn yn annaearol, fel petai’n dod o rywle arall heblaw llwyfan y Marcî (os nac ydi o’n jyngl mae o’n fydysawd pell). Mae hyd yn oed nodau’r bwa ar y bâs weithiau’n cael eu gwthio trwy’r pedalau trydan i greu sŵn fel storm. Yn y gân encore, mae’r sacs soprano fel llond lle o fabŵns gwyllt.
8.00pm
Ennyd o egwyl o’r diwedd a haul diwedd dydd yn gynnes ar lawnt yr ysgol fonedd. Cyfle am beint o Footstomper o’r bragdy lleol. Ond mae Blas ar Gymru wedi mynd … dim omlet bara lawr. Y tai bach symudol werth eu defnyddio, yn ymylu ar fod yn foethus.
9.00pm
Y diwedd, yn yr eglwys gadeiriol. Gwilym Simcock, un o’r unig ddau gig gyda chysylltiad Cymreig. Mi ddigwyddodd gael ei eni ym Mangor pan oedd ei rieni ym Mhontllyfni … digon da i ni. A fo, medden nhw, ydi un o sêr mawr y dyfodol, yn cael ei gymharu efo Keith Jarrett (y pianydd nid y chwaraewr rygbi). Fel hwnnw, mae o’n taro ar gyfuniadau newydd o nodau trwy’r amser a sŵn clasurol yn ei chwarae. Yn wahanol i hwnnw, mae o’n ddiymhongar.
Y ffeithiau: Gwilym Simcock (piano – yr allweddell a’r llinynnau o dan y caead); Yuri Goloubev ar y bâs (is-thema arall, yr holl enwau Ewropeaidd) a James Maddren ar y drymiau (ie, yr un James Maddren oedd efo Kit Downes … cadwch yn effro, bendith dduw).
Ac o sôn am fendith duw, mae’r ffenestri lliw bellach wedi’u llifoleuo ac mae sawl un o’r caneuon yn dechrau efo piano offerennaidd bron. Mae Gwilym Simcock wedi gwneud taith mewn adeiladau crefyddol efo’r band Acoustic Triangle ac mae urddas canu crefyddol yn llawer o’i gerddoriaeth.
Ond, yn fuan, mae’r nodau’n neidio ac yntau’n neidio ar ei stôl, neu’n plygu i’r chwith wrth i’r alawon raeadru. Mae’r darnau’n chwarter awr o hyd, yn chwyddo a gostwng ac yn codi fel ehedydd ar linyn o nodau.
Mae rhai cantorion jazz yn defnyddio’r un cyfuniadau dro ar ôl tro ac yn defnyddio cyfuniadau cyfarwydd. Er mai dyfeisio ar y pryd y maen nhw, mi wyddoch beth sy’n dod nesa’. Mae Gwilym Simcock yn wahanol. Mae’n eich synnu chi dro ar ôl tro.
10.40pm
A dyna ni. Diwrnod da, heb uchafbwyntiau syfrdanol rhai o’r blynyddoedd cynt, ond heb yr un funud wael. Heb awyrgylch gymdeithasol na lliw’r blynyddoedd gorau ond mwy o sylw ar jazz go iawn.
Mae angen elfen arall – un llwyfan, efallai, ar gyfer perfformiadau Cymreig. Ond, erbyn hyn, mae merched Merthyr wedi cyrraedd y sgwâr ac mae’r nos yn y jyngl yn dechrau.