Mae gwefan WikiLeaks wedi addo y byddan nhw’n parhau i gyhoeddi mwy o ddogfennau cyfrinachol o archifau llywodraethau ar draws y byd… a hynny er bod yr Unol Daleithiau wedi eu gorchymyn i roi’r gorau i ryddhau mwy o wybodaeth filitaraidd sensitif.

“Fe alla’ i eich sicrhau y byddwn ni’n dal ati i gyhoeddi dogfennau – dyna be’ ydyn ni’n ei wneud,” meddai llefarydd ar ran Wikileaks sy’n arddel yr enw Daniel Schmitt.

Er nad oedd yn fodlon manylu ynghylch be’n union fyddai’n cael ei gyhoeddi ar y wefan, mynnodd bod gwybodaeth sydd wedi dod i’r amlwg ar wefan Wikileaks wedi cyfrannu at ddealltwriaeth y cyhoedd o’r rhyfel yn Affganistan.

Diogelwch

“Mae’n rhaid i bobol wybod y gwir am yr hyn sy’n digwydd cyn y gallwn ni gael unrhyw beth yn debyg i ddiogelwch,” meddai llefarydd Wikileaks.

“Trwy gael dealltwriaeth well, fe all y cyhoedd gadw golwg ar yr hyn mae llywodraethau’n ei wneud, ac felly fe allan nhw ddylanwadu arnyn nhw.”

Fe wrthododd yr honiad bod cyhoeddi gwybodaeth gyfrinachol yn rhoi bywydau mewn peryg.