Mae yna ddryswch ynglyn a chynlluniau posib y llywodraeth glymblaid yn San Steffan i roi’r gorau i ddarparu llefrith i blant dan bump oed.

Maen nhw bellach yn dweud na fyddan y cynlluniau yn mynd rhagddyn nhw – er bod y dirprwy gweinidog iechyd, Ann Milton, wedi dweud bod y cynllun yn costio gormod.

Mae cynghorwyr Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi dweud “nad oedd ef yn hoff iawn” o’r syniad o roi’r gorau i lefrith, ac “na fyddai hyn yn digwydd”

Er hynny, fe achosodd yr holl ddigwyddiad gryn ddryswch, wrth i David Willetts, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am brifysgolion, faglu tra’n siarad ar raglen deledu. Fe ddywedodd yn bendant fod y cynllun dan ystyrraeth – cyn cael gwybod ar yr awyr bod y cynllun bellach wedi ei wrthod.