Mae mwy o bobol yn marw ar eu pennau eu hunain bob blwyddyn, yn ôl ystadegau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw.

Fe wariodd cynghorau ar hyd a lled Cymru a Lloegr £1.56m y llynedd yn talu am 2,200 o angladdau cyhoeddus, o gymharu â’r £1.46m a wariwyd y flwyddyn gynt.

Mae’r ymchwil yn dangos bod 208 o gynghorau yn gwario tua £368,682 yr un er mwyn talu am 258 o angladdau pobol fu farw heb deulu i dalu am y gwasanaethau.

Unig

“Mae’r ystadegau trasig hyn yn dweud eu stori eu hunain,” meddai David Rogers o Gymdeithas Llywodraeth Leol.

“Mae pobol, y rhan fwya’ ohonyn nhw’n hen, yn marw o’n cwmpas ni, heb deulu na ffrindiau i ofalu amdanyn nhw.

“Mae’n ffaith drist fod miloedd o bobol ar draws gwledydd Prydain, heb na ffrindiau na theulu, i drefnu, mynychu na thalu am eu hangladdau. Ddylai neb gael eu hunain yn y sefyllfa honno.”

Deuddeg y flwyddyn

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn talu am dri angladd y flwyddyn.

Mae costau’r angladdau’n amrywio rhwng £300 a £3,000, gyda’r gost gyfartalog yn £959. Mae awdurdodau Cymru, ar gyfartaledd, yn gwario cyfanswm o £2,582 y flwyddyn ar angladdau cyhoeddus.