Mae 43 o bobol wedi eu lladd yn dilyn ffrwydriad yn ail ddinas Irac.
Mae llefarydd ar ran adran iechyd Basra wedi cadarnhau’r nifer, ar ôl y ffrwydriad a ddigwyddodd yn hwyr nos Sadwrn.
Mae degau o bobol eraill wedi cael eu cario i bedwar ysbyty gwahanol yn y ddinas.
Dirgelwch
Mae’n parhau’n aneglur be’n union achosodd y ffrwydriad. Mae swyddogion yn methu â chytuno p’un ai dwy fom oedd yn gyfrifol, ynteu ddiffygion generadur trydan.
Mae dinas Basra rhyw 340 milltir i’r de-ddwyrain o brifddinas Irac, Baghdad.