Mae dwr yn llawn rwbel wedi llifo trwy un o ardaloedd mwya’ anghysbell gogledd-orllewin China, gan falurio adeiladau, troi ceir ar eu pennau, a lladd o leia’ 127 o bobol.
Mae hanner tref gyfan wedi bod dan ddwr, ac mae tua 2,000 o bobol ar goll.
Mae trigolion ofnus wedi ffoi i dir uchel, neu wedi dringo i loriau uwch adeiladau, wedi i’r afon orlifo ei glannau yn rhanbarth Gansu.
Mae nifer o dai wedi dymchwel, ac mae rhai strydoedd dan gymaint â medr o fwd, yn dilyn tirlithriadau.
Mwd
“Y mwd yw’r broblem fwya’ wrth geisio achub pobol,” meddai swyddog. “Mae’r mwd yn rhy drwchus i gerdded neu yrru trwyddo.”
Yn ôl y darlledwr CCTV (China Central Television), mae o leia’ 127 o bobol wedi eu lladd, ac mae 2,000 ar goll. Mae cyflenwadau trydan a dwr wedi eu heffeithio yn ne y rhanbarth. Mae tua traean o’r boblogaeth o dras Tibetaidd.
Y gwaetha’
Ar draws China, mae llifogydd gwaetha’r degawd diwetha’ wedi lladd dros 1,100 o bobol eleni, ac mae 600 o bobol yn parhau ar goll. Mae’r dyfroedd wedi achosi gwerth degau o biliynau o ddoleri o ddifrog dros 28 o ranbarthau ac ardaloedd.
Eleni’n unig, mae tua 875,000 o gartrefi wedi cael eu dinistrio, mae 9.61 miliwn o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi, ac mae cnydau ar 22 miliwn o aceri wedi eu dinistrio.