Fe fu’n rhaid symud miloedd o bobol o ardaloedd ym Mhacistan wrth i berygl o lifogydd gynyddu unwaith eto.

Ar ôl llacio rhywfaint ddydd Gwener, mae glaw trwm ddoe ym Mhacistan ac Afghanistan wedi codi ofnau y bydd rhagor o ddinistr a marwolaethau.

Yn ôl llywodraeth Pacistan, mae tua 13 miliwn o bobol wedi eu heffeithio gan y llifogydd gwaetha’ yn y wlad ers iddi gael annibyniaeth yn 1947,

Dyw’r ffigwr y mae’r Cenhedloedd Unedig yn ei roi ddim cynddrwg – 4 miliwn – ond mae tua 1,500 o bobol eisoes wedi marw, yn benna’ yng ngogledd-orllewin y wlad.

Bellach, mae rhai o filwyr a hofrenyddion yr Unol Daleithiau wedi cael eu hanfon o’r rhyfel yn Afghanistan i helpu gyda’r ymdrech achub ac mae tua 30,000 o filwyr Pacistan yn ceisio adfer rhai o’r ffyrdd a’r pontydd sydd wedi eu chwalu.

Er hynny, mae’r feirniadaeth yn parhau ar Arlywydd Pacistan, Asif Ali Zardari, am adael y wlad i ymweld â gwledydd Prydain a Ffrainc yn ystod yr wythnos ddiwetha’

Llun: Mab yr Arlywydd, Bilawal Bhutto Zardari, yn Lloegr yn lansio cronfa i helpu Pacistan (Gwifren PA)