Mae Prif Weinidog Prydain wedi rhybuddio y bydd rhaid cael gwared ar rai pethau y mae pobol yn eu trysori, wrth dorri gwario cyhoeddus.

Mae hefyd wedi awgrymu y bydd llawer o asedau cyhoeddus yn cael eu gwerthu neu eu defnyddio mewn ffyrdd gwell er mwyn codi ac arbed arian.

Mewn erthygl ym mhapur newydd y Sunday Times, fe ddywedodd David Cameron bod y Llywodraeth newydd yn debyg i reolwyr yn cymryd gofal am gwmni oedd yn methu ac yn ceisio’i roi mewn trefn er mwyn y cyfranddalwyr.

“Rhaid i chi gael rhywun yn dod i mewn gydag ynni, syniadau a gweledigaeth a chymryd camau rhesymegol,” meddai.

Y bwriad oedd cael gwared ar wastraff amlwg a phethau sydd heb fod yn ychwanegu gwerth – fe ymosododd yn arbennig ar dwyll budd-daliadau.

Trwy’r cyfan, meddai, roedd rhaid cadw llygad ar y wobr yn y pen draw – “rhyddid rhag dyled” sy’n dal gwledydd Prydain yn ôl.