Fe gafodd dyn anafiadau drwg i’w gefn a’i goesau ar ôl damwain gyda chwch modur yn y môr ger Aberdyfi.
Mae’n ymddangos fod y dyn yn cael ei dynnu ar gylch rwber pan gwympodd allan a phan ddaeth y cwch yn ôl i’w godi, fe gafodd ei daro gan y propelor.
Yn ôl Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau, fe lwyddodd y bobol eraill yn y cwch i’w godi o’r dŵr ac fe gawson nhw eu tywys yn ôl i’r lan yn Ynyslas ger Borth gan gwch achub.
Fe fu’n rhaid i hofrennydd yr RAF ddod i godi’r dyn a’i gario i’r ysbyty.
Rhybudd
Mae Gwylwyr y Glannau wedi rhybuddio pobol i fod yn ofalus cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath.
“Mae reidiau cyffro’n beryglus yn eu hanfod a, chyn neidio i mewn, rhaid i bobol ystyried yn ofalus a oes gan y capten yr arbenigedd a’r offer angenrheidiol,” meddai Graham Warlow, rheolwr y shifft ar ran Gwylwyr y Glannau.
Llun: Aberdyfi (tivedshambo CCA3.0)