Mae dyn wedi ei hebrwng allan o adeilad ble’r oedd Arlywydd Pacistan yn areithio ar ôl iddo daflu ei esgidiau at y gwleidydd.
Roedd Asif Ali Zardari yn wynebu protestio ar ôl dweud wrth gefnogwyr yn yr adeilad bod y “broblem” diplomyddol gyda Phrydain wedi ei ddatrys.
Roedd David Cameron wedi dweud yn India’r wythnos flaenorol bod elfennau o fewn Pacistan yn hybu terfysgaeth.
Ond wrth siarad gyda thorf o fwy nag 1,000 o bobol yn Birmingham, dywedodd yr Arlywydd fod ganddo “berthynas da gyda Llywodraeth Prydain”.
“Mae’r broblem wedi ei ddatrys gyda chymorth ASau Pacistanaidd.”
Roedd sawl un o gefnogwyr Asif Ali Zardari yn llafarganu enw Benazir Bhutto, gwraig Asif Ali Zardari gafodd ei lladd gan derfysgwyr yn 2007.
Ond y tu allan i’r adeilad roedd tua 100 o brotestwyr yn dal arwyddion, rhaid yn galw ar yr Unol Daleithiau a Phrydain i adael Pacistan ac Afghanistan.
“Mae gormod o ddinasyddion Pacistan wedi colli eu bywydau o ganlyniad i’r frwydr yma,” meddai un protestiwr., Iqbal Najid, 32.
Roedd eraill yn cwyno bod Asif Ali Zardari wedi parhau gyda’i daith dramor tra bod pobol yn dal i farw yn y llifogydd erchyll ym Mhacistan.